Ni yw’r Songbirds, côr cymunedol i fenywod LHDTC+, pobl draws a phobl anneuaidd yng Nghaerdydd. Fe’n sefydlwyd yn 2012. Dydyn ni ddim yn cynnal clyweliadau ac rydyn ni bob amser yn croesawu aelodau newydd.
Rydyn ni’n ymarfer bob dydd Llun o 7:30pm yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas.
Ymfalchïwn yn ein cynhwysiant a’n nod yw bod yn grŵp cefnogol a chyfeillgar lle gall aelodau gael hwyl a chreu sŵn hyfryd.

Rydyn ni’n ymarfer unwaith yr wythnos yng Nghaerdydd ac yn perfformio ledled yr ardal leol pan allwn, yn aml ar gyfer elusennau lleol, gan gynrychioli’r gymuned LHDTC+ a mwynhau ein hunain yn y broses (y peth pwysicaf!). Dilynwch ni ar Facebook, Twitter and Instagram.
Ethos y côr yw derbyniad a hwyl; rydyn ni’n gymuned ac yn deulu, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar gynhwysiant na bod yn berffaith o ran nodau (er, diolch i’n Cyfarwyddwr Cerdd, Lizzie, rydyn ni’n creu sŵn hyfryd)! Os ydych chi eisiau gwybod yn union beth i’w ddisgwyl wrth ymuno â’r côr, ewch i’n tudalen Aelodau Newydd.
Rydyn ni’n cynnal ein cyngherddau ein hunain unwaith neu ddwywaith y flwyddyn ac yn aml yn perfformio mewn digwyddiadau Pride ledled de Cymru. Rydyn ni wedi canu mewn digwyddiadau gan Stonewall, Prifysgol Caerdydd a Thŷ Hafan, yn ogystal â phriodasau, gwasanaethau carolau a digwyddiadau ar y cyd â’n ffrindiau, South Wales Gay Men’s Chorus a’r Cardiff Trans Singers. Cynhaliodd y tri grŵp Hand in Hand Festival gyda’i gilydd yng Nghaerdydd ym mis Awst 2019.
Rydyn ni bob amser yn falch iawn o groesawu aelodau newydd i’n côr. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen a ddarparwyd, neu ewch i’n tudalennau Facebook, Twitter, ac Instagram os hoffech ddod yn aelod, trefnu i ni ymddangos yn eich digwyddiad, neu am unrhyw wybodaeth bellach.